BRO CERNYW

Cyngor Cymuned

Community Council

Lotto Lwcus

Rydyn ni’n gwybod bod codi arian yn ymdrech gyson i grwpiau cymunedol ledled Conwy. Mae Loto Lwcus wedi cael ei sefydlu i helpu sefydliadau a chlybiau lleol i godi arian y mae ei wir angen. Gan weithio gyda Gatherwell Cyf., rydyn ni wedi sefydlu'r loteri foesegol hon fel ffordd hawdd, hwyliog ac am ddim yn llwyr i achosion da greu incwm cynaliadwy drwy gydol y flwyddyn.

 

Byddai'n wych pe baech chi’n gallu dweud wrth yr achosion da yn eich ardal chi am y cyfle yma. Os oes gennych chi gylchlythyr cymunedol, gwefan, cyfryngau cymdeithasol neu ddulliau cyfathrebu eraill, lledaenwch y gair am y cyllid yma ar gyfer grwpiau lleol. Dyma enghreifftiau o achosion da:

  • Clybiau Chwaraeon
  • Elusennau Lleol
  • Cymdeithasau Rhieni ac Athrawon Ysgolion
  • Canolfannau Cymunedol a Neuaddau Pentref
  • Mentrau Cymdeithasol

 

Gall Loto Lwcus helpu grwpiau i godi mwy na £500 y flwyddyn drwy werthu dim ond 20 tocyn yr wythnos. Does dim risg, dim cost a dim gwaith gweinyddol.

 

Sut mae grwpiau'n cofrestru?

 

Cam 1: Ewch i www.cvsclotolwcus.co.uk/cy/good-causes/apply a chofrestru’r sefydliad     

Cam 2: Byddwn yn adolygu ac yn cymeradwyo’r sefydliad o fewn 5 diwrnod gwaith

Cam 3: Gall y sefydliad ddechrau gwerthu tocynnau drwy ein gwefan ni

 

 

Hapus i helpu

 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau beth am edrych ar ein Cwestiynau Cyffredin

yma. Gallwch ein ffonio ni ar: 01492 483015

Neu ewch i: www.cvsclotolwcus.co.uk/cy

 

 

Mae'r prosiect yma wedi ei gyllido trwy'r Cynllun Datblygu Gwledig gydag arian yr UE a Llywodraeth Cymru