BRO CERNYW

Cyngor Cymuned

Community Council

Cinio Nadolig 2023

Rhagfyr 2il cafodd rai dros 60 oed ginio Dolig gwerth chweil yng Nghanolfan Bro Cernyw. Croesawyd bawb gan Clwyd Roberts, cadeirydd pwyllgor y Ganolfan. Paratowyd y wledd gan Eirian Morris a Jen Roberts , cawsant help gan rai i weini y bwyd. Yna dan arweiniad Gwenda Cooper ac Ann Edwards yn cyfeilio cafwyd canu carolau i orffen. Diolch yn fawr i bawb.

Cliciwch ar unrhyw lun i weld delwedd mwy.

Mae'r prosiect yma wedi ei gyllido trwy'r Cynllun Datblygu Gwledig gydag arian yr UE a Llywodraeth Cymru