BRO CERNYW

Cyngor Cymuned

Community Council

Plannu Coed

Mae Pwyllgor y Fynwent wedi archebu coed bach am ddim gan yr Ymddiriedolaeth Goedwigaeth i’w plannu fel gwrych ym Mynwent Llangernyw.

Mae’r rhain am roi lliw ar hyd y flwyddyn ger y ffens ochr dde i lawr i’r gwaelod.

Bu’r Cynghorwyr Sarah Thomas a’i merch, Euros Williams, Mark Roberts ac Ann Vaughan, hefyd Mary Hindley o’r criw Paned a Sgwrs yn eu plannu bore Sadwrn Mawrth 2il. Diolch yn fawr i chi am eich gwaith a rhoi o’ch amser i’w plannu. Edrychwn ymlaen i’w gweld yn deilio cyn bo hir.

Yn ogystal mae Kevin Roberts ar ran y Cyngor wedi bod yn brysur yn tacluso’r llwybrau, torri canghennau coed a chreu safle compost newydd yng nghornel isaf y fynwent.

Oherwydd fod hwn wedi cael ei glirio cofiwch mai dim ond gwellt a blodau sydd angen ei roi ynddo. Mae’r rithoedd a phlastig yn cael eu rhoi yn y bin du. Diolch am eich cydweithrediad.

Mae'r prosiect yma wedi ei gyllido trwy'r Cynllun Datblygu Gwledig gydag arian yr UE a Llywodraeth Cymru