BRO CERNYW

Cyngor Cymuned

Community Council

Merched Y Wawr Llangernyw

Cangen Llangernyw

Ym Medi 1980 daeth cnewyllyn bychan o ferched Llangernyw at ei gilydd i gychwyn cangen o Ferched y Wawr yn y pentref. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ar Ionawr 12fed 1981 o dan lywyddiaeth y diweddar Glenys Jones, Camaes.

Mae’r gangen yn parhau i gyfarfod am hanner awr wedi saith ar yr ail nôs Lun o bob mis yng Nghanolfan Bro Cernyw. Estynir croeso cynnes i ferched y pentref i ymuno gyda ni, i gael sgwrs a phaned a gwrando ar y siaradwyr difyr a ddaw atom.

Cysylltu

Os ydych am ymuno gyda ni, yna dewch draw i’r cyfarfodydd – cofiwch fod croeso arbennig i ddysgwyr yn ein plith. Pe dymunech dderbyn mwy o wybodaeth mae croeso i chi gysylltu gyda’r swyddogion

Llywydd Jên Roberts 01745 860595
Ysgrifennydd Ellen Roberts 01745 860686
Trysorydd Diane Roberts  
     
Pwyllgor Bwyd Olwen Evans,
Meinir Roberts,
Helen Wanklyn,
Gaenor Edwards
 

 I gysylltu â Merched y Wawr, Llangernyw trwy e-bost, cliciwch yma.

Cyfarfod 14eg Hydref

Ein gwraig wadd heno oedd Iona Evans, Tan Lan ddaeth atom i siarad am Gymdeithas Edward Llwyd. Iona yw Llywydd presennol y Gymdeithas a chawsom wybod ganddi sut y bu i’r Gymdeithas gychwyn a’i hanes personol yn ymuno 30 mlynedd yn ol. Trwy sgwrs oedd yn frith o hanesion difyr ei phrofiadau ar hyd y blynyddoedd bu i’r noson hedfan a bu i bawb fwynhau’r tasgau a osododd i ni ar y diwedd yn fawr iawn.

Jên ddiolchodd i  Iona am noson werth chweil, i Ann Vaughan am wneud y baned gyda chymorth Non ac i Ruth am roi’r raffl a enillwyd gan Ellen.

Cyfarfod 9ed Medi 2019

Ar noson gyntaf tymor newydd cymerodd ein Llywydd Jen Roberts y gadair a chroesawu pawb oedd wedi ymgynull. Estynnodd groeso arbennig i’n gwahoddedigion.

Yn ol ein harfer ar ddechrau tymor newydd dywedodd ein bod yn anfon cofion at gynaelodau a fu’n ffyddlon i’r gangen ond sydd bellach yn methu dod. Dywedodd ein bod yn cofio at Mona Hughes, Megan Davies a Myfanwy Howatson sydd mewn cartrefi gofal ac yn llongyfarch Mrs Edwards Rhyd Eden ar ddod yn hen nain i Hadli Gruff yn Seland Newydd a Ceinwen Roberts Pandy Bryn Barcud wedi cael wyres a gor-wyres yn ystod yr haf.

Da oedd deall fod Geraint Davies, mab Eirlys yn gwella ar ol llawdriniaeth a llongyfarchiadau i Megan ar ddod yn nain i Modlen Glwys, merch fach Dewi Marc a Glena.

Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy – diolchodd Jen yn fawr iawn i’r aelodau a gynorthwyodd ym mhabell Merched y Wawr mewn unrhyw ffordd, a hefyd y tim gefn llwyfan yn enwedig y rhai fu’n rhan o’r tim fu’n smwddio 480 o wisgoedd yr orsedd yng ngwres Gorffennaf.  Diolch hefyd i Sioned am y cloc a wnaeth hi ar ran y gangen, ‘roedd y babell yn edrych yn hardd iawn a chryn ganmol arni.  ‘Roedd canmol hefyd i gyflwyniad y Mudiad yn y babell ddawns a Diane, Olwen, Jen ac Ellen wedi mwynhau bod yn rhan ohonno.

Sioned oedd yn gyfrifol am drefniadau’r diddanwch heno a galwodd Jen arni ymlaen i gyflwyno’r siaradwraig. Eglurodd Sioned ei bod wedi cael gwybod ychydig ddyddiau yn gynt fod ein siaradwraid wadd - Is-Gomisiynydd yr Heddlu, wedi torri ei braich ac yn methu dod atom. Fodd bynnag mi oedd Sian Lewis, neu Sian Eirian, Y Graig, wedi cytuno ar fyr rybudd i ddod atom i sgwrsio am ei gyrfa. Yn wir mi ddaru’r noson hedfan heibio a phawb wedi rhyfeddu at gymaint y mae Sian wedi ei gyflawni ym mywyd cyhoeddus Cymru a hithau’n dweud ei hanes mor wylaidd a di-rodres. Wrth ddiolch o waelod calon iddi dywedodd Sioned mor ddiolchgar ydym iddi fel rhieni a neiniau am fodolaeth Cyw. Mae llwyddiannau Sian yn anhygoel ac rydym yn ymfalchio ynddi fel merch o’r pentref.  Bu i Gwyneth ddiolch ar ran aelodau Capel Garmon am y croeso yr oeddynt wedi ei gael a dweud cymaint yr oeddynt hwythau wedi mwynhau sgwrs Sian.  

Diolchodd i Megan a Rhian am wneud paned ac i Sian am roi gwobr raffl a ennillwyd gan Margaret o Capel Garmon

Cyfarfod 10 Mehefin 2019

I gloi ein tymor am eleni aethom ar wibdaith i Blas Towerbridge, Rhuthun, (Pont y Twr ar y rhaglen Garddio a Mwy ar S4C). Yno i’n croesawu yr oedd Sioned a’r teulu a chawsom baned a chacen tra’r oedd Sioned  yn dweud  tipyn o hanes yr ardd wrthym.  Er fod y glaw wedi dod yn gwmni i ni fe ddaru pawb fwynhau cymryd tro o amgylch yr ardd a rhyfeddu at lewyrch y planhigion sy’n tyfu ynddi. Cyn gadael cawsom wylio Sioned yn creu tusw mawr o flodau’r ardd ac fe’i ennillwyd gan Eleri.  Ymlaen wedyn i fwyty Brookhouse Mill am swper. Diolch yn fawr i Marian a Gwenan am drefnu noson gwerth chweil.

Jen, ein Llywydd oedd yn y gadair a chydymdeimlodd ar ein rhan a Gaenor oedd wedi colli ei Mam, gan hefyd longyfarch Eleri ar ddod yn Nain unwaith eto.  Diolchodd i Marian, Sian, Meinir, Beryl, Menna ac Ellen am gynrychioli’r gangen yng Nghyfarfod Blynyddol y Mudiad ym Machynlleth gan estyn ein llongyfarchiadau i Menna a Beryl ar ddod yn bencampwyr Cymru ar y gystadleuaeth Gyrfa Chwist .

Daeth tim bowlio deg Llangernyw, sef Marian, Gwenan, Jen, Meinir, Ann Vaughan ac Ellen yn ail yng nghystadleuaeth y Rhanbarth ym Mhrestatyn gan ddychwelyd bythefnos yn ddiweddarach a dod yn ail eto yng Nghystadleuaeth Rhanbarthau’r Gogledd. Diolchodd i Eirian, Eirlys ac Olwen ddaru ymuno efo Aelodau o gangen Pandy Tudur i greu tim a llongyfarchiadau i Eirlys oedd yn ail am nifer fwyaf o bwyntiau unigol yn y Rhanbarth.

Diolchodd Jen i bawb gymrodd ran yn y chwaraeon, Cangen Llangernyw ennillodd Darian y Rhanbarth am y mwyaf o farciau yn yr holl cystadlaethau chwaraeon yn 2019.

Cyfarfod nos Lun, 13eg Mai

Heno cyflwynodd Gwenan, Dawn Wilks o Lansannan oedd wedi dod atom i gynnal noson grefft. Dangosodd amrywiaeth o’r placiau pren y mae’n eu creu o dan y label dawnbach, gan egluro sut y mae’n eu marchnata a sut mae’r busnes yn tyfu.  ‘Roedd wedi dod a chyfarpar efo hi ac wedi iddi greu un i ni gael gweld cawson gyfle i drio creu ein campweithiau ein hunain.  Bu i’r noson hedfan heibio a phawb wedi mwynhau yn fawr.

Chwaraeon Merched y Wawr, Ebrill 2019

Bu nifer o aelodau o’r gangen yn cystadlu yn Chwaraeon y Rhanbarth yn ddiweddar. Diolch yn fawr i bawb am gytuno i gymryd rhan. Fe gawsom ddwy noson hwyliog dros ben a daeth llwyddiannau hefyd. Llongyfarchiadau i Menna a Sian ar ennill y Chwist a Meinir a Gaenor yn ail ac i’r tîm bowlio ddaeth yn fuddugol - Gwenan, Ann, Jên a Marian. Daeth y tim dewis dau ddwrn yn drydydd - Ellen, Olwen a Gaenor a’r tim dominos yn ail - Menna a Marian. Pob hwyl i’r rhai ohonoch fydd yn mynd ymlaen i Fachynlleth mis nesaf i gynrychioli’r Rhanbarth. Diolch i Diane a’r tîm fu’n gofalu am y baned. Rydym yn gwerthfawrogi’n arw eich cefnogaeth bob amser.

Cadw Llangernyw'n Daclus

Bu i gangen Merched y Wawr Llangernyw gymryd rhan yn ymgyrch y Llywydd gan fynd ati i hel sbwriel o amgylch y pentref cyn y Pasg a hyn mewn cydweithrediad efo Cadwch Gymru’n Daclus fel rhan o’u prosiect Gwanwyn Glan Cymru.
‘Roedd hi’n wythnos brysur ac wyth ohonom oedd yn gallu dod ar y noson ond bu i ni lenwi 14 o fagiau, y rhan fwyaf o fewn ffiniau’r pentref mewn ychydig dros awr.  Mae amryw o aelodau ein cangen yn mynd am dro yn gyson ar ei liwt ei hunain  gydol y flwyddyn i godi sbwriel yn y pentref a gyda ochrau’r ffyrdd gwledig o amgylch.

Cyfarfod nos Lun, 8ed Ebrill

Ein gwr gwadd heno oedd Huw, Erw Deg ac estynodd Jen groeso cynnes i fachgen lleol atom  gan gyfeirio at y wledd gawsom fis yn ol diolch i’r cennin godidog a gawson ganddo ar gyfer gwneud y cawl. Gyda chymorth sleidiau cawsom gan Huw ei hanes hyd yma ym myd ‘garddio’, o’r dyddiau cynnar yn fachgen bach yn helpu ei ewythr pryd y plannwyd y diddordeb ynddo.  Wedi gadael yr ysgol aeth i Goleg Llaneurgain ac yn ystod cyfnod o brofiad gwaith yn Erddig selwyd ei benderfyniad mai yn y maes yma yr oedd am wneud ei yrfa.  Yn dilyn prentisiaeth yng ngerddi Bodnant mae bellach yn aelod amser llawn o staff y meithrinfeydd yno. Cawsom ganndo lawer o hanes y gerddi a’r datblygiadau sydd wedi bod yno yn ddiweddar ac agoriad llygaid wrth glywed am y gwaith aruthrol yn y meithrinfeydd i gychwyn a meithrin planhigion ifanc i’w gwerthu i’r cyhoedd.

Mae’r diddordeb yn parhau yn ei amser hamdden a chlywsom sut y mae yn cychwyn ac edrych ar ol y llysiau anhygoel y mae yn cael cymaint o lwyddiant efo nhw yn y sioeau lleol, gan dreulio oriau lawer gyda’r planhigion.

Diolchodd Ann Bryn Gwylan yn gynnes iawn i Huw ar ein rhan, ‘roedd y gynulleidfa gyfan wedi mwynhau yn fawr ac yn ymfalchio yn ymroddiad a llwyddiant un o fechgyn  ifanc ein prentref.  Diolchodd hefyd i Gaenor am drefnu, i Bethan am roi’r wobr raffl a ennillwyd gan Eleri ac i Sioned ac Eirian am wneud y baned.

Cyfarfod nos Lun, 14eg Ionawr

Croesawodd Jen, ein Llywydd bawb oedd wedi dod ynghyd gan ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i’r holl aelodau a chofio at y rhai nad ydynt yn gallu mynychu oherwydd anhwylder. Dywedodd ein bod yn llongyfarch Beryl ar ddod yn Hen Nain.

Estynodd groeso i’w brawd, T. Gwyn Williams o Cwm, Dyserth oedd wedi dod atom i gadw noson.

Eglurodd Gwyn ei fod yn arfer gweithio i Gymdeithas Addysg y Gweithwyr ac yn rhedeg cyrsiau yng Nghastell y Waun ac yn Erddig yn son am Gelf y lleoliadau. Heno cawsom sgwrs ganddo ar y Celf unigryw sydd i’w weld yn Erddig a pheth o hanes yr adeilad a ddaeth i berchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn y saithdegau cynnar. Dangosodd sleidiau i ni o ddarluniau cywrain gan egluro eu harwyddocad a’u pwysigrwydd ac yn enwedig portreadau John Walters o Ddinbych o brif weithwyr yr ystad rhwng 1791 a 1796. Yn wir, erbyn diwedd y sgwrs ‘roedd wedi codi awydd ar bob un ohonom i fynd i Erddig i weld yr arlunio hyfryd yma drosom ein hunain.

Helen a Bethan Jackson wnaeth y baned a Diane a enillodd y raffl a roddwyd gan Eirlys Williams. Diolchodd Jen yn gynnes i bawb oedd wedi cyfranu i lwyddiant y noson.

Cyfarfod nos Lun, 8fed Hydref

Ein siaradwr gwadd heno oedd Dewi Davies, Rheolwr Prosiect Uwch-Conwy, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Dywedodd fod y prosiect yn cwmpasu’r ardal sy’n bwydo i mewn i’r Afon Conwy ym Metws y Coed, o’r Migneint i gyrion Llyn Ogwen. Gyda chymorth sleidiau diddorol eglurodd sut yr oedd yr Ymddiriedolaeth yn gweithio gyda pherchnogion tir a thenantiaid yr Ymddiriedolaeth yn yr ardal i geisio adfer mawndir a choedlannau. Dywedodd ei bod yn bwysig i’r Ymddiriedolaeth i gadw cyd-bwysedd rhwng yr angen i warchod bywoliaeth ffermwyr a’r gymuned ehangach ynghyd a chymryd mesurau i wella’r amgylched a gwarchod bywyd gwyllt. Mae mawndiroedd yn dal carbon ac felly’n chwarae rhan bwysig yn y frwydr yn erbyn cynhesu byd-eang, yn ogystal a dal dwr a lleihau gorlifo yn is i lawr yr afon.

Ar ddiwedd y noson diolchodd Jen i Dewi am sgwrs ddifyr ac addysgiadol ac i Ellen am drefnu a’i gyflwyno. Diolchodd i Bethan a Rhian am wneud y baned ac i Gaenor am roi’r wobr raffl a ennilwyd gan Jen.

Cyfarfod Nos Lun 10fed Medi 2018

Croesawodd ein cadeirydd Jen bawb oedd wedi dod ynghyd, a dywedodd mor braf oedd gweld cymaint yn bresennol a hefyd wynebau newydd, rhai yn dychwelyd i’n plith.  Cofiodd at rai fu’n aelodau ffyddlon ond bellach yn methu dod am eu bod  yn gaeth i’w cartrefi neu mewn cartref.  Braf oedd deall fod Enid Davies wedi cael  llawdriniaeth ac yn gwella a felly hefyd Mair a Nia, cyn aelodau sydd hefyd wedi gwella ar ol triniaeth. Dywedodd ein bod yn cofio at unrhyw un fu’n dathlu neu mewn profedigaeth dros yr haf.

Croesawodd Jen ein siaradwraig ‘Einir PG’, sef Einir Pen Glogor, Llansannan.  Dywedodd Einir ei bod wedi ymddiddori mewn gwaith llaw a choginio ers yn hogan fach ac wedi cael blas mawr ar gystadlu yn sioe Llansannan pan yn blentyn. Cawsom ganddi ei hanes yn gwneud trefniadau blodau i briodasau ffrindiau ar y cychwyn cyn symud ymlaen i sefydlu ei busnes ‘Einir PG’.  Hobi oedd hyn ar y cychwyn a hithau’n gweithio’n llawn amser ym myd y cyfryngau. O dipyn i beth cynyddodd y galw am ei gwasanaeth ac erbyn hyn mae’r hobi wedi troi yn waith llawn amser.  Yn ogystaf a gosodiadau blodau priodasol mae Einir hyfyd yn gwneud cacennau priodas ac yn dylunio a chynhyrchu’r gwahoddiadau ac felly’n darparu gwasanaeth llawn.  Mae wedi gwneud dros 20 o briodasau eleni a phob elfen o bob un ohonynt yn unigryw.  ‘Roedd wedi dod ac enghreifftiau o’i gwaith, nid yn unig pethau ar gyfer priodas ond pob math o ddathliadau eraill a phob dim i safon uchel iawn.

‘Roedd wedi gofyn i ni ddod a phot jam efo ni a dangosodd i ni sut i’w addurno cyn ei llenwi a blodau. Cawsom ddewis o doreth o rhubanau a les oedd ganddi i addurno’r potiau cyn eu llenwi a dewis eang o flodau.  ‘Roeddym i gyd wedi dotio at y canlyniad a phob un ohonom wedi creu addurn unigryw.  Diolchodd Diane yn gynnes iawn i Einir am noson ddifyr tu hwnt.  Ann Vaughan wnaeth y baned, Carol roddodd y raffl ac Eleri a ennillodd.

Ymweliad a Phant Du, Nos Lun 11ed Mehefin 2018

Ar noson hynod o braf buom ar ymweliad a Phant Du, Penygroes. Cawsom groeso cynnes gan Richard a thipyn o hanes prynu Pant Du a sefydlu gwinllan a pherllan yna. Wrth gerdded o amgylch y berllan o goed afalau cynhenid Gymreig a’r winllan cawsom olygfeydd godidog o Ddyffryn Nantlle. Cyn troi am adref ‘roedd swper blasus wedi cael ei baratoi ar ein cyfer gan Iola a’r genod yn y Ty Bwyta.

Diolchodd Jen, ein Llywydd iddynt am noson hynod ddifyr ac i John o gwmni Phoenix am ein cludo yno ac adref yn ddiogel.

Dywedodd ein bod yn cofio at, ac yn falch o glywed fod Enid Davies yn gwella ar ol ei llawdriniaeth ac yn gobeithio cael dod adref yn y dyddiau nesaf.

Diolchodd i Beryl a Menna oedd wedi ein cynrychioli yn yr Wyl Haf ym Machynlleth a llongyfarch y tim bowlio deg ddaeth yn fuddugol yng ngemau’r rhanbarth. Llongyfarchodd bawb a gymerodd ran y cystadleuthau chwaraeon er helpu cangen Llangernyw i ennil y Darian Chwaraeon.

Atgoffodd bawb am yr Wyl Gelf a Chrefft yn Llansannan ar Fehefin 29ain a’r Helfa Drysor yn Llandrillo yn Rhos ar Orffennaf 6ed.

Jen oedd wedi rhoi y gwobrau raffl a gafodd eu hennill gan Sioned a Marian.

Hon oedd noson glo y tymor cyfredol, bu yn flwyddyn bleserus ac amrywiol a diolchodd i bawb fu’n helpu i drefnu, diolchodd i Ellen sy’n aros ymlaen fel ysgrifennydd am flwyddyn arall a diolch hefyd i Jen sy’n aros fel Llywydd a Diane fel Trysorydd. Byddwn yn ail agor ar Fedi 9fed efo noson o drefnu blodau yng ngofal EinirPG

Cyfarfod 9fed Ebrill 2018