BRO CERNYW
Cyngor Cymuned
Community Council
Ebrill 2023 | ||
02 Dydd Sûl 14:00 |
Capel y Cwm Gwasanaeth gyda Eric Greene Capel y Cwm |
|
04 Dydd Mawrth 10:00 |
Eglwys Sant Digain Canolfan Gynnes Dewch am banad a sgwrs Eglwys St. Digain, Llangernyw |
www.brocernyw.cymru
Helfa Wyau Pasg (cliciwch)
Gwefan Cyngor Cymuned Bro Cernyw ar gyfer ardal pentrefi Llangernyw, Pandy Tudur a Gwytherin.
yn Eglwys St. Digain, Llangernyw
Dewch am baned a sgwrs - croeso i bawb
Bore dydd Mawrth, Mawrth 21 ain daeth 10 ynghyd i’r Hwb cynnes yn Eglwys St Digain o 10am -12.00pm Rydym yn cyfarfod bob bore Mawrth i gael paned a sgwrs a rhoi y byd yn ei le. Roedd Gwenda Cooper wedi paratoi cawl cennin blasus i ni gyda bara ffres. Diolch i’r Cynghorydd Sir, Mr Austin Roberts am ddod hefyd, mae pawb yn falch o’i weld i drafod materion yn yr ardal ac mae’n braf ei weld wyneb yn wyneb. Diolch i Gwenda am drefnu hyn bob bore
Mae pawb wedi bod yn brysur yn y tri pentref yn plannu blodau’r haf yn nhybiau y Cyngor Cymuned a rhai Conwy. Diolch i chi i gyd am helpu unwaith eto. Mae’n rhoi croeso i’r pentrefi i gyd.
Mae Menter Bro Cernyw wedi cymeryd drosodd y toiledau gan Gyngor Conwy.
Arwahan i'r holl ymwelwyr sy'n dod i'r pentref i weld y gwahanol atyniadau, mae llawer o grwpiau cerdded yn gwerthfawrogi bod y toiledau ar agor ac yn lan.Rhybydd gan Heddlu Dyfed-Powys (cliciwch yma i weld y ddogfen (PDF)):
Mae Lotto Lwcus wedi ei sefydlu i helpu sefydliadau a chlybiau lleol i godi arian.
Os ydi'ch mudiad chi eisio fanteisio ar y cynllun yma, cliciwch yma i weld fwy o fanylion.
Neges pwysig ynglyn â toileau'r pentref ar dudalen Menter Bro Cernyw.
Cysylltwch a NYTH/NEST am grantiau a chyngor ar sut i gynhesu eich tai. www.nestwales.org.uk neu Rick.ward@nest.org.uk 07903 443 655
Gwefan sydd wedi ei gosod gan Gyngor Cymuned Llangernyw ar gyfer y gymuned i gyd yw hon. Yr ydym yn gobeithio bydd y wefan yn dod yn ganolbwynt gwybodaeth ar gyfer yr ardal o gwmpas Llangernyw, Gwytherin a Phandy Tudur.
Os oes rhywbeth y basech yn hoffi ei weld ar y wefan, neu os oes gennych unrhyw awgrymiad ar sut i wella'r wefan cliciwch yma ar gyfer cysylltu ag Arfon Parry, chynhaliwr y wefan.
I gysylltu â'r cyngor gwelwch manylion y cyngor ar y dudalen hon.
Ydych chi'n aelod o glwb neu gymdeithas yn ardal Bro Cernyw? Fasech chi'n barod i roi gwybodaeth am eich cymdeithas ar y wefan?
Mae'r cyngor yn cynnig hyfforddiant sut i roi gwybodaeth ar y wefan i rywun sy'n cynrychioli cymdeithasau neu glybiau lleol.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Arfon.