BRO CERNYW

Cyngor Cymuned

Community Council

Yr Aelwyd

Cynhelir Aelwyd Bro Cernyw bob Nos Iau yn wythnosol am 7:30 i unrhyw un rhwng 14-30 oed yng Nghanolfan Addysg Bro Cernyw os na nodir yn wahanol.  Cynigir amrywiaeth eang iawn o nosweithiau a gweithgareddau, rhywbeth at ddant pawb gobeithio!! 

Dyma rai o'r gweithgareddau sydd ar y gweill ar gyfer yr aelwyd eleni - Trip i Lazerquest, Gaer, Trip i Ffatri Patchwork, Rhuthun, Nosweithiau Cwis/Gemau, Sglefrio Iâ, Bowlio 10, Nosweithiau Chwaraeon, Wist Flynyddol, Trip Rygbi, Noson Pŵl a Darts, Eisteddfod yr Urdd heb anghofio'r Parti 'Dolig a'r Noson Llosgi Copis ar ôl yr Eisteddfod, i enwi dim ond rhai.

Os ydych eisiau mwy o wybodaeth, cysylltwch gydag unrhyw un o'r swyddogion -

Cadeirydd - Carwyn Davies a Ifan Owen
Ysgrifenydd -   Cara Williams
Is-Ysgrifenydd - Beca Williams
Ysgrifenyddes y Wasg/Marchnata - Eiry Owen
Trysorydd - Llion Roberts
 

Ymwelwch ar ein tudalen Facebook.

Aelwyd Bro Cernyw ac Aelwyd 7-9 yn Gwirfoddoli

Mae'r prosiect yma wedi ei gyllido trwy'r Cynllun Datblygu Gwledig gydag arian yr UE a Llywodraeth Cymru